Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth
Contract: Llawn amser, Parhaol
Lleoliad: Caerdydd a'r Fro
Cyflog: £19635 - £21030 y flwyddyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth o fewn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Byddwch yn atebol i’r Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, a byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth ar bob agwedd ar yr adran, yn cynnwys y canlynol:
- Cyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol, yn cynnwys cofrestru myfyrwyr ac ymholiadau cyffredinol gan staff a myfyrwyr pan fydd hyn yn ofynnol, yn enwedig yn ystod cofrestru, cyfnodau o lwyth gwaith sylweddol neu absenoldeb staff.
- Cynorthwyo gyda chofrestru wyneb yn wyneb yn ôl y gofyn, yn ystod y flwyddyn.
- Diweddaru’r system myfyrwyr fewnol i sicrhau nad yw’r dysgwyr sydd wedi tynnu’n ôl/symud wedi cofrestru ar eu cwrs, a bod dysgwyr gorffenedig yn cael eu prosesu’n gywir.
- Newid amserlenni’r coleg ac e-gofrestrau ar y system amserlennu fewnol.
- Sicrhau bod e-gofrestrau’n cael eu marcio’n brydlon ac y llunnir adroddiadau ar unrhyw e-gofrestrau nad ydynt wedi’u marcio ar gyfer Rheolwr Busnes Cwricwlwm. Cynnal archwiliadau dirybudd i sicrhau bod y cofrestrau’n cyd-fynd â nifer y dysgwyr yn y dosbarth o leiaf unwaith bob tymor.
- Diweddaru e-gofrestrau gydag unrhyw wersi sy’n cael eu canslo, neu wersi sy’n cael eu darparu gan staff addysgu eraill.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir addysgol cadarn neu brofiad cymesur amlwg. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd delfrydol feddu ar hanes amlwg o ddarparu yn y sector addysg bellach a’r gallu i gyfathrebu materion cymhleth i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 10/12/21 am 12:00
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu hr@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd
<u>Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|