Dyma gyfle cyffrous i diwtor/asesydd cymwys ymuno â’n tîm llwyddiannus a phroffesiynol sy’n gweithredu o fewn Hyfforddiant CGA, cangen fasnachol y Coleg.
Gan weithio o fewn yr adran Busnes, Sgiliau ac Arloesi, byddwch yn marchnata, recriwtio, addysgu, asesu a chefnogi dysgwyr o fewn y sector. Byddwch yn gweithio fel rhan o rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith, rhaglenni NVQ, prosiectau a ariennir gan gyllid ewropeaidd yn ogystal â phrosiectau a rhaglenni pwrpasol.
Byddwch yn meddu ar ymagwedd broffesiynol a bydd gennych wybodaeth gyfredol am y fframwaith. Byddwch hefyd yn gallu cyflwyno pob cymhwyster (ar bob lefel) sy’n berthnasol i’r fframwaith brentisiaethau. Yn ddelfrydol, byddwch yn gyfarwydd â gofynion gweinyddol y rhaglenni prentisiaeth.
Gan weithio gyda chyflogwyr a rheolwyr allanol yng Ngholeg Gwyr Abertawe, byddwch yn gallu nodi a chefnogi datrysiadau hyfforddiant er mwyn diwallu anghenion sefydliadau. Bydd gofyn ichi hefyd gynorthwyo Dilyswyr Mewnol i sicrhau bod gofynion y Dilysydd Allanol a’r corff dyfarnu yn cael eu bodloni.
Yn ddelfrydol mi fydd gennych gymhwyster lefel 5 neu’r cyfwerth mewn maes perthnasol a byddwch yn meddu ar (neu’n barod i weithio tuag at) ddyfarniad Asesydd A1/Dilyswyr Mewnol V1. Bydd gennych gymwysterau Lefel 2 (Gradd A-C) neu’r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg ynghyd ag ymrwymiad i gyflawni cymhwyster Paratoi i Addysgu (PTTLS). Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ar gyfer swydd hon.
Mae hon yn swydd hanfodol Gymraeg, felly bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, bydd gennych brofiad a chymhwysedd galwedigaethol i asesu Lefelau 1-3 (neu’r cyfwerth), a byddwch yn gallu ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr, gan drosglwyddo’ch gwybodaeth iddynt.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).
Bydd y swydd wedi’i lleoli yn Llys Jiwbilî, Abertawe, SA5 4HB
|