Cardiff and Vale College

Careers | Cardiff and Vale College

We are excited you have visited our Careers page. We are seeking talented individuals that are excellent in their field of expertise and are posed with all potential and skills necessary to help us meet future business challenges.

Cardiff and Vale College
This position is no longer available
If you would like to apply to other positions at Cardiff and Vale College, please return to our Careers Page.
Position not right for you?
Share it with someone you know.

Darlithydd mewn Peirianneg Drydanol

Reference: NOV20216682
Expiry date: 2021-12-06 12:00:00.000
Location: Caerdydd a'r Fro
Salary: £21,137.00 - £41,599.00 Per Annum
Benefits: Pecyn gwyliau hael, cyfraniadau pensiwn cyflogwr hael, cynllun iechyd preifat wedi'i gyllido'n llawn.
Attachments: AdLectElectricalEngSept21V2_wel.docx
JD-LecturerinElectricalEgineeringFTE2021_wel.docx

Teitl y Swydd:    Darlithydd mewn Peirianneg Drydanol                       

Contract:           Parhaol, Llawn Amser

Cyflog:               £21,137 - £41,599 y flwyddyn 

Lleoliad:             Caerdydd a'r Fro

 

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Ddarlithydd mewn Peirianneg Drydanol wedi'i leoli yn y Gyfadran Dechnoleg ar Gampws Canol y Ddinas ond gyda'r disgwyliad i gyflenwi campysau eraill yn ôl yr angen. Mae gan yr adran Beirianneg dros 500 o ddysgwyr, yn cynnwys dysgwyr llawn amser, prentisiaid a darpariaeth fasnachol sy'n boblogaidd iawn. Mae'r adran yn cyflogi dros 30 aelod o staff sy'n ymdrin ag agweddau gwahanol ar ein cwricwlwm, o Beirianneg (Trydanol/Electronig, Mecanyddol a Pheirianneg Cynnal a Chadw Offer), i Dechnolegau Modurol. Mae hwn yn gyfle gwych i'r ymgeisydd eithriadol, nid yn unig i weithio yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, ond hefyd i fod yn rhan o dîm llwyddiannus.

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu darparu ac asesu cyrsiau ar lefelau gwahanol, yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

 

  • Rhaglenni BTEC ac EAL lefel 2/3 llawn/rhan-amser
  • Rhaglenni Peirianneg HNC/D

 

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster proffesiynol ar lefel 5 neu uwch o leiaf mewn Peirianneg Drydanol. Mae cymhwyster cyfwerth/Safon Uwch mewn mathemateg hefyd yn ddymunol. Mae'n rhaid iddynt hefyd gael cyflogaeth sylweddol a pherthnasol o fewn y diwydiant peirianneg, a gwybodaeth weithredol o Beirianneg Drydanol Ddiwydiannol, systemau rheoli, systemau electrofecanyddol, PLC's a systemau micro-reoli. Mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd feddu ar gymhwyster TAR neu fod yn barod i weithio tuag at un.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y swydd ddisgrifiad.

 

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 06/12/21 am 12:00

 

I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu hr@cavc.ac.uk.

 

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod mewn lle cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau.  Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

 

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas, cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar ôl penodi.

 

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd.

 

<u>Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>

 

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.