Cardiff and Vale College

Careers | Cardiff and Vale College

We are excited you have visited our Careers page. We are seeking talented individuals that are excellent in their field of expertise and are posed with all potential and skills necessary to help us meet future business challenges.

Cardiff and Vale College
This position is no longer available
If you would like to apply to other positions at Cardiff and Vale College, please return to our Careers Page.
Position not right for you?
Share it with someone you know.

Aseswr Plymio a Gwresogi (11784)

Reference: JAN20244028
Expiry date: 2024-04-25 11:00:00.000
Location: Caerdydd a'r Fro
Salary: Competitive
Benefits: Gwyliau blynyddol hael, pensiwn a chynllun iechyd.
Attachments: AseswrPlymioaGwresogi(Cymraeg)-JD.doc
AseswrPlymioaGwresogi(Cymraeg)-AD-Jan24.docx

<u>Swydd Wag Fewnol / Allanol</u>

<u> </u>

Ref:                         11784

Teitl y Swydd:         Aseswr Plymio a Gwresogi

Contract:                 Llawn amser, Parhaol

Cyflog:                     £30,313 - £32,331 y flwyddyn

Lleoliad:                  Caerdydd a'r Fro

 

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr o fewn y gweithle i gyflawni fframweithiau perthnasol. Mae’r rôl yn ymwneud ag asesu dysgwyr ar y cymwysterau City and Guilds lefel 2 a lefel 3 mewn Plymio a Gwresogi. 

 

Byddwch yn gyfrifol am yr asesiad a datblygiad nifer helaeth o ddysgwyr, i gyflawni’r dangosyddion perfformiad allweddol gweithredol a osodwyd sy’n cynnwys recriwtio dysgwyr, monitro datblygiad a chyflawni’r cymhwyster i fodloni gofynion y contract. Mae cyfrifoldebau eraill y swydd yn cynnwys:

 

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cytundebol ym mhob maes o daith y dysgwr, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i fetio a monitro iechyd a diogelwch, profion WEST, gwaith papur cofrestru a gadael y dysgwyr ac adolygiadau ar raglenni.
  • Gwneud gwaith sicrhau ansawdd mewnol (IQA), fel amlinellwyd gan y Sefydliad Dyfarnu, ac yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Llinell. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys mynychu cyfarfodydd sicrhau ansawdd.
  • Ymwneud â chyflogwyr yn rhagweithiol yn ystod ymweliadau er mwyn hyrwyddo dysgu’n seiliedig ar waith. Ymdrin â datblygiadau ac ymholiadau’n brydlon.
  • Datblygu llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol dysgwyr yn weithredol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n briodol i’r rhaglen ac yn gallu dangos profiad diwydiannol sylweddol. Mae cymhwyster Aseswr/IQA yn ddymunol ond nid yn hanfodol oherwydd rhoddir hyfforddiant ar y swydd. 

 

Yn ogystal â hynny, byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd drwydded yrru lân a mynediad at ei drafnidiaeth ei hun, gan fod teithio yn rhan allweddol o’r swydd hon.

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 25/04/2024 am 12pm

 

I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu recruitment@cavc.ac.uk

 

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau.  Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

 

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr ar eich penodiad.

 

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

 

Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

 

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.