Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: 12324
Teitl y Swydd: Derbynnydd
Contract: Llawn Amser, Parhaol
CYFLOG: £23,152 - £23,930 y flwyddyn
Oriau: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Campws Canol y Ddinas
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Dderbynnydd a fydd yn gweithio’n bennaf ar ein Campws Canol y Ddinas ar Heol Dumballs ond gyda disgwyliad i gyflenwi ym mhob safle yn ôl yr angen. Fel Derbynnydd, byddwch yn cynnal gwasanaeth derbynfa groesawgar, ddymunol a phroffesiynol. Byddwch yn ymateb yn effeithiol ac yn effeithlon i bob ymholiad, a hynny mewn modd cwrtais a chroesawgar, gan ddatrys pob ymholiad yn y lle cyntaf, pan mae hynny’n bosib. Er bod y rôl wedi'i lleoli'n bennaf ar Gampws Canol y Ddinas, bydd disgwyl cyflenwi mewn lleoliadau eraill CCAF ar sail ad-hoc.
Er nad yw’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd, byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sy’n gallu ymwneud â myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel rhan o'r swydd, byddwch yn:
- Cwrdd a chroesawu ymwelwyr i’r Coleg, dosbarthu pasys i ymwelwyr, a’u cyfeirio fel sy’n briodol
- Cyfeirio ymholiadau ymwelwyr a dysgwyr i’r unigolyn mwyaf addas er mwyn eu hateb a’u datrys.
- Ymateb yn effeithiol ac yn effeithlon i’r holl sianeli cyfathrebu yn ôl yr angen.
- Cadw’r dderbynfa yn daclus ac yn dderbyniol bob amser
- Sicrhau bod unrhyw fancio yn cael ei basio i G4S a bod y “daflen mewngofnodi ddiogel” wedi ei diweddaru.
- Sicrhau bod unrhyw bost a dderbyniwyd yn cael ei brosesu’n gyflym ac yn effeithiol, er mwyn amddiffyn delwedd broffesiynol y dderbynfa.
- Gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng Iechyd a Diogelwch ac Ystadau ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â chymorth cyntaf.
- Ymdrin ag ymholiadau sy’n ymwneud â phost, parseli, ystadau a chymorth cyntaf.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus gefndir addysgol cadarn mewn TGAU Mathemateg a Saesneg o leiaf, yn ogystal â phrofiad cymesur amlwg. Dylech feddu ar brofiad addas o weithio mewn amgylchedd derbynfa brysur, ac ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau amrywiol.
Yn gyfnewid am eich gwaith caled a’ch ymroddiad i’n dysgwyr, rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys cynllun pensiwn hael, cynllun arian parod, rhaglen cymorth i weithwyr, cynllun Beicio i’r Gwaith, ap Headspace, a mynediad at dechnegau arbed arian drwy’r cynllun Porth Gwobrwyo.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw dydd 05/04/2024 am 12pm
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfon e-bost i hr@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr ar eich penodiad.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|