Mae cyfle unigryw a chyffrous wedi codi yn y Coleg i addysgu Cymraeg fel sgìl cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth eang o raglenni.
Mae hon yn rôl drawsgolegol a byddwch yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr pwnc i ddylunio a darparu rhaglenni pwrpasol i ddatblygu sgiliau Cymraeg gan ganolbwyntio ar wasanaeth cwsmeriaid a chyflogadwyedd.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus addysg hyd at lefel gradd ac, yn ddelfrydol, bydd yn meddu ar gymhwyster TAR neu fod yn barod i weithio tuag ato. Gyda phrofiad addysgu, yn ddelfrydol o fewn amgylchedd AB, byddwch yn hyderus i addysgu cyrsiau Mynediad i Lefelau 1-3.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos sgiliau trefnu ardderchog, brwdfrydedd a dycnwch a medru dangos ymrwymiad i’r rôl ac awch am ddysgu ac addysgu, gan weithio gydag amrywiaeth eang o alluoedd.
|