Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol
Contract: Parhaol, Amser Llawn
Cyflog: £21,137 - £41,599 y flwyddyn
Lleoliad: Caerdydd a’r Fro
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol yn ein Campws Heol Colcot er y bydd disgwyl iddo/iddi fynd i gampysau eraill yn ôl yr angen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyflawni ac asesu cyrsiau ar lefelau gwahanol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Rhaglenni BTEC & EAL lefel 2/3, amser llawn neu ran-amser
- Rhaglenni Peirianneg HNC/D
- Pynciau Mecanyddol ymarferol
Yn ddelfrydol bydd cymhwyster athro gan yr ymgeisydd llwyddiannus neu bydd e/hi’n barod i weithio er mwyn ennill un. Bydd bod â phrofiad helaeth yn y diwydiant a chymhwyster proffesiynol mewn Peirianneg Fecanyddol hyd at lefel gradd yn hanfodol hefyd.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person.
Defnyddiwch ffurflen gais Coleg Caerdydd a’r Fro yn unig i wneud cais. Ni dderbynnir ceisiadau CV. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni a hoffech i ni gynnal y broses gyfweld ac asesu yn Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi’u cwblhau yw 09/12/21 am 12:00
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu drwy hr@cavc.ac.uk.
Mae’r holl swyddi gwag yn berthnasol am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad dilys a chyfoes gan y DBS. Mae hwn yn gontract cytundebol ac mae’n rhaid ei sefydlu cyn i’ch cyflogaeth ddechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ynghylch Addasrwydd Cyn-droseddwyr am Gyflogaeth ar gael ar gais.
Yn ogystal, bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yn ddibynnol ar wiriadau geirda addas, cyn y gallwch ddechrau ar y gyflogaeth. Rhaid i Goleg Caerdydd a’r Fro gael dau eirda, gydag un ohonynt gan eich cyflogwr diweddaraf.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru (CGA Cymru) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
<u>Mae’r rhain yn gontractau cytundebol ac mae’n rhaid iddynt fod wedi’u sefydlu cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>
Rydym yn ymroddedig i recriwtio a dargadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol y cynllun hyderus o ran anabledd.
|