Teitl y Swydd: Rheolwr Contractau ac Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith
Contract: Llawn Amser, Parhaol
Cyflog: £35,387 - £37,366 y flwyddyn
Lleoliad: Coleg Caerdydd a'r Fro
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Reolwr Contractau ac Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith wedi'i leoli ar Gampws y Barri ond gyda'r disgwyliad i gwmpasu campysau eraill yn ôl yr angen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd yn gyfrifol yn bennaf am reoli ac arwain darpariaeth is-gontractwr (QSA) wrth gyflwyno Prentisiaethau drwy reolaeth contract i sicrhau y cyflawnir blaenoriaethau allweddol y Coleg o Ansawdd, Effeithlonrwydd a Thwf.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Bod yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli ansawdd ar gyfer aelodau QSA, gan gynnwys sefydlu a chynnal lefelau uchel o ymddygiad proffesiynol.
- Sicrhau ansawdd darpariaeth QSA a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith pan fo diffygion yn cael eu hadnabod i wella perfformiad.
- Gweithio'n greadigol i hyrwyddo a chyfoethogi gwaith y tîm WBL gyda'r holl randdeiliaid perthnasol
- Cryfhau perthnasoedd presennol a datblygu perthnasoedd ag isgontractwyr er mwyn sicrhau twf yn y ddarpariaeth.
- Cyfrannu at ddatblygiad strategaethau twf WBL.
- Helpu i ddatblygu cyfleoedd masnachol a chynhyrchu incwm i'r Coleg ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
- Datblygu rhaglenni Prentisiaeth a chyfleoedd Dysgu seiliedig ar waith sy’n ymateb i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
- Bod yn gyfrifol am wasanaethau/darpariaeth ansawdd QSA, gan ddefnyddio a hybu Dangosyddion Perfformiad Allweddol perthnasol cytunedig.
- Ymgymryd ag adolygiadau hunanasesu arfarnol yn amserol a defnyddio'r broses hunanasesu fel offeryn ar gyfer gwelliant parhaus ac adolygu'r cwricwlwm
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster academaidd priodol fel gradd neu gymwysterau Lefel 5 cyfwerth a/neu brofiad helaeth o Ddysgu Seiliedig ar Waith. Hefyd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu darparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd am gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 13/12/21 am 12:00
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu hr@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd
<u>Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|