Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: 12315
Teitl y Swydd: Darlithydd Gwyddorau Cymdeithasol
Contract: Llawn Amser, Contract Cyfnod Penodol tan Mawrth 2025
Cyflog: £24,051 - £47,333 pro rata, (yn ddibynnol ar brofiad)
Oriau: 37
Lleoliad:
Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Darlithydd Gwyddorau Cymdeithasol yn yr adran Addysg Gyffredinol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas Caerdydd.
Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Ymgymryd â'r holl waith addysgegol megis paratoi gwersi, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, gwaith tiwtorial a marcio.
- Addysgu TGAU Cymdeithaseg, Diploma Lefel 3 Troseddeg CBAC, Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch, Lefel 2 Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach. Darparu Tiwtorial Personol, Sgiliau Astudio, Cymhwyster Prosiect Estynedig, a/neu Fagloriaeth Cymru yn ôl yr angen.
- Addysgu TGAU Cymdeithaseg, Diploma Lefel 3 Troseddeg CBAC, Lefel 3 Mynediad i Addysg Uwch, Lefel 2 Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach. Darparu Tiwtorial Personol, Sgiliau Astudio, Cymhwyster Prosiect Estynedig, a/neu Fagloriaeth Cymru yn ôl yr angen.
- Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn bodloni anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i chofnodi ar y systemau Coleg priodol.
- Ymgymryd â gwaith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, mynychu cyfarfodydd tîm, cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol a gwerthusiadau staff, cynnal cofnodion cywir yn ymwneud ag addysgu gan gynnwys manylion asesu a phresenoldeb.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm.
- Ymwneud â marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, creu deunyddiau hyrwyddo priodol a gweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol.
- Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai’n ddymunol eu cael ar gyfer y swydd hon
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 01/04/2024 am 12:00pm.
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost i recruitment@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|