Teitl y Swydd: Dirprwy Reolwr Cyflawni Dysgu Seiliedig ar Waith - Tîm Technoleg
Contract: Llawn Amser, Parhaol
Cyflog: £32,718 - £34,657 y flwyddyn
Lleoliad: Coleg Caerdydd a'r Fro
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Ddirprwy Reolwr Cyflawni Dysgu Seiliedig ar Waith wedi'i leoli ar Gampws y Barri ond gyda'r disgwyliad i gwmpasu campysau eraill yn ôl yr angen.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y swydd yn gyfrifol am berfformiad ac ansawdd gwasanaethau/darpariaeth eich tîm drwy reoli perfformiad yn effeithiol ac i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol gweithredol a osodwyd sy’n cynnwys recriwtio dysgwyr, monitro cynnydd a chyflawni’r cymhwyster i fodloni gofynion y contract.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Rheoli eich tîm i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cytundebol o fewn holl feysydd taith y dysgwr, sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fonitro a gwirio iechyd a diogelwch, profion WEST, cofrestru dysgwyr a gwaith papur gadael ac ar adolygiadau rhaglenni.
- Rheoli llwyth achos eich tîm i sicrhau eich bod yn manteisio ar y capasiti i sicrhau defnydd effeithiol o amser a galluoedd y tîm. Wrth gynyddu nifer cyffredinol y dysgwyr ar raglenni dysgu seiliedig ar waith.
- Dadansoddi a gwerthuso data perfformiad i gynnig adroddiad misol i’ch rheolwr llinell ar berfformiad cyfredol ac a ragwelir ar draws eich tîm i’ch galluogi chi reoli a datrys materion yn rhagweithiol.
- Bod â dealltwriaeth gadarn o sectorau o fewn darpariaeth eich tîm a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau sy’n berthnasol i’r sectorau hyn drwy gadw ar flaen datblygiadau a thueddiadau cyfredol.
- Ymgysylltu’n weithredol â chyflogwyr i hyrwyddo dysgu seiliedig ar waith drwy fynd i gyfarfodydd, cefnogi’r gwaith o baratoi cynigion, a gwneud cyflwyniadau mewn digwyddiadau rhwydweithio a digwyddiadau ar gyfer cyflogwyr.
- Bod y prif gyswllt o fewn eich tîm a gweithio gyda’ch rheolwr llinell i ddatblygu partneriaethau â chyflogwyr i sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn glir i bob parti a hyrwyddo cyflawniad y dysgwr.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster rheoli priodol a/neu brofiad cyfwerth o reoli.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd am gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 13/12/21 am 12:00
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu hr@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd
<u>Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|