Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am unigolyn proffesiynol a brwdfrydig i gefnogi ei rhaglenni cyflogadwyedd hynod lwyddiannus yng nghanol Dinas Abertawe.
Mae’r rhaglenni yn canolbwyntio’n bennaf ar weithio gyda phobl ac oedolion ifanc sy’n ceisio cyflogaeth, unigolion sydd yn gweithio’n barod ac yn dymuno gwella potensial eu cyflogaeth, yn ogystal â myfyrwyr sydd mewn perygl o ddatgysylltu gyda’u hastudiaethau, swyddi neu hyfforddiant. Trwy dîm ymroddedig o Ymgynghorwyr Gweithlu, mae’r rhaglen hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i greu gwell swyddi a mwy o gyfleoedd ar gyfer dilyniant i gleientiaid o fewn y gweithle.
Fe fydd y Gweinyddydd/Derbynnydd yn bwynt cyswllt cyntaf i gleientiaid ac ymwelwyr fydd yn ymweld â safle Ffordd y Brenin a bydd yn rhoi cymorth gweinyddol cyffredinol i staff yn Ffordd y Brenin.
Gyda gwybodaeth o sefydlu a chynnal systemau gweinyddu cywir, byddwch yn hyfedr wrth ddefnyddio pob pecyn Microsoft Office ac yn teimlo’n angerddol dros ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol yn ogystal â’r gallu i uniaethu ag ystod eang o gwsmeriaid
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar lefel 2 (gradd A-C) neu gymhwyster cyfatebol mewn mathemateg a Saesneg. Mae sgiliau iaith Gymraeg ar lefel 4 mewn gwrando a siarad yn ddymunol (gweler y disgrifydd sydd wedi'i atodi i'r disgrifiad swydd).
|