Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: 12218
Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Peirianneg Awyrofod (Mecanyddol)
Cytundeb: Parhaol, Llawn Amser
Oriau: 37
Cyflog: Hyd at £41,916
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd mewn Peirianneg Awyrofod (Mecanyddol) yn yr adran Awyrofod yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Lleolir y rôl hon yng Nghanolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT).
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Ymgymryd â'r holl waith sy’n ymwneud ag addysgeg megis paratoi gwersi, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, gwaith tiwtorial a marcio.
- Cynnal asesiadau myfyrwyr er mwyn lleoli myfyrwyr, monitro cynnydd ac adnabod anghenion cymorth dysgu.
- Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn bodloni anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i chofnodi ar y systemau Coleg priodol.
- Ymgymryd â gwaith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, mynychu cyfarfodydd tîm, cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol ac arfarniadau staff, cynnal cofnodion yn gysylltiedig ag addysgu cywir yn cynnwys manylion asesu a phresenoldeb
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm
- Ymwneud â marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, creu deunyddiau hyrwyddo priodol a gweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol.
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Ar gyfer y rôl hon mae gwybodaeth dda am Fathemateg Bellach a Lefel Uwch a darpariaeth CAD 2D a 3D yn ddymunol. Mae gwybodaeth hanfodol am Egwyddorion Peirianneg Fecanyddol Awyrennau a Dylunio Prosiect Peirianneg hefyd yn ofynnol.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 01/04/2024 yr 12:00pm.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost i recruitment@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|