Gower College Swansea

Careers | Gower College Swansea

We are excited you have visited our Careers page. We are seeking talented individuals that are excellent in their field of expertise and are posed with all potential and skills necessary to help us meet future business challenges.

Gower College Swansea
This position is no longer available
If you would like to apply to other positions at Gower College Swansea, please return to our Careers Page.
Position not right for you?
Share it with someone you know.

Technegydd TG (Cymraeg Hanfodol)

Reference: SEP20229218
Expiry date: 2022-10-04 22:59:00.000
Location: Abertawe
Salary: £21,579.00 - £23,490.00 Per Annum
Benefits: 28 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, amrywiaeth o fanteision i weithwyr gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.

Mae’r Coleg yn ceisio gwella ymhellach y cyfleusterau TG sydd ar gael i fyfyrwyr a staff. Wrth i ni ail-strwythuro’r adran, mae cyfle wedi codi i Dechnegydd TG deinamig a phrofiadol i ymuno ag Adran Gwasanaethau Cyfrifiadurol y Coleg i'n helpu gyda'r rhaglen hon, a darparu cymorth o safon uchel i staff a dysgwyr sy'n defnyddio systemau a rhwydweithiau'r Coleg.

Dylai fod gan ymgeiswyr hanes o weithio fel Technegydd TG neu mewn rôl debyg, ynghyd â phrofiad mewn rôl o'r fath mewn amgylchedd masnachol a/neu ym myd addysg. Bydd gwybodaeth dda gan ymgeiswyr o osod offer caledwedd a meddalwedd a darparu cymorth, ynghyd â phrofiad o ddiagnosio a datrys problemau mewn modd effeithlon ac effeithiol.  Mae profiad o ddarparu gwasanaeth cymorth ar gyfer offer Apple yn ddymunol iawn, a hefyd unrhyw brofiad o ddarparu gwasanaeth cymorth teleffoni.

Wedi cael addysg i lefel 3 neu uwch mewn TG neu ddisgyblaeth gysylltiedig, bydd ymgeiswyr yn gallu dysgu systemau newydd yn gyflym ac yn dangos etheg gwasanaeth cwsmeriaid gryf ac yn gyfathrebwr ardderchog.  Rhaid i ymgeiswyr fabwysiadu ymagwedd hyblyg at batrymau gwaith a bod yn barod i deithio a gosod offer oddi ar y safle.

Mae’r swydd hon wedi’i hystyried yn Gymraeg yn Hanfodol ar Lefel 4 (gweler y Disgrifyddion Lefel Cymraeg ynghlwm wrth y disgrifiad swydd).

Lleoliad: Gorseinon neu Gampws Tycoch

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).