Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: 11971
Teitl y Swydd: Technegydd Trydanol/Electroneg
Contract: Parhaol, Tymor ysgol yn unig
CYFLOG: £23,152 - £23,930 pro rata
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Technegydd Trydanol/Electroneg o fewn yr adran Beirianneg, Awyrofod a Modurol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli yn Canal Parade.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Chwarae rhan weithredol yn yr holl sesiynau ymarferol sydd wedi’u trefnu o fewn oriau gwaith y contract a darparu cefnogaeth i staff gydag adnoddau a chyfarpar i alluogi’r sesiynau hyn i redeg yn ddidrafferth.
- Cynnal gweithdrefnau er mwyn gweithredu cyfleusterau’r Gyfadran yn ddiogel, effeithlon ac effeithiol.
- Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau a chyfarpar ar gyfer gweithgareddau myfyrwyr.
- Sicrhau bod cyflenwadau digonol o ddeunyddiau, cyfarpar ac offer ar gael pan fo’u hangen.
- Datgysylltu gwaith myfyrwyr ac adfer deunyddiau er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
- Cadw cofnod rheolaidd o offer, cyfarpar etc. a chynorthwyo staff darlithio i sicrhau diogelwch cyffredinol o fewn yr adran.
- Cynorthwyo gyda gwirio stoc a diweddaru cofnodion stoc yn flynyddol.
- Cynnal archwiliadau cynnal a chadw cyffredinol cyson.
- Cynorthwyo gyda sicrhau amgylchedd gweithio diogel ym mhob ardal ddynodedig. Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys profi dyfeisiau cludadwy (PAT), rheoliadau COSHH ac unrhyw reoliadau fydd y Coleg angen eu cyflwyno yn y dyfodol ynghyd â gweithdrefnau cofnodi cysylltiedig.
- Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau addysgu cwrs, datblygu a chyflwyno'r cwricwlwm fel aelod o’r tîm. Cynorthwyo gyda’r datblygiadau cyffredinol.
- Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond byddent yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 29/03/2024 yr 12:00pm.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfon e-bost i recruitment@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.
|