Teitl Swydd: Cynorthwyydd Lletygarwch
Contractau: Parhaol
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £18,689 - £19,342 pro rata, y flwyddyn
Lleoliad: Safleoedd Gwahanol
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Gynorthwyydd Lletygarwch fydd yn gweithio’n bennaf ar Gampws Canol y Ddinas, ond gyda'r disgwyliad i weithio ar gampysau eraill yn ôl yr angen.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Dilyn trefniadau glanhau mewn ceginau, golchi llestri fel sy’n ofynnol a glanhau’r adran ac ardaloedd cysylltiedig yn ôl yr angen.
- Adrodd ar unrhyw broblemau cynnal a chadw i’r goruchwylir ar unwaith
- Cydymffurfio â'r holl bolisïau Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd
- Sicrhau bod offer pob cegin a phob bwyty wedi’u glanhau a’u bod nhw’n cael eu cynnal a’u cadw
- Unrhyw ddyletswyddau ad-hoc cysylltiedig eraill yn yr ardal
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio fel Porthor Cegin, neu swydd Letygarwch gyffelyb, yn ogystal â Thystysgrif Diogelwch Hylendid Bwyd ddilys, neu barodrwydd i weithio tuag at un. Mae agwedd hyblyg at waith yn hanfodol oherwydd gall patrymau sifftiau ac oriau gwaith amrywio yn unol â’r galw, yn cynnwys patrymau sifftiau yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Ceir rhagor o wybodaeth am y rôl, y fanyleb person a chymwyseddau'r swydd yn y swydd ddisgrifiad amgaeedig.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 14/12/21 am 12:00
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu hr@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd
<u>Mae'r rhain yn gytundebau contractiol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|