Cardiff and Vale College

Careers | Cardiff and Vale College

We are excited you have visited our Careers page. We are seeking talented individuals that are excellent in their field of expertise and are posed with all potential and skills necessary to help us meet future business challenges.

Cardiff and Vale College
This position is no longer available
If you would like to apply to other positions at Cardiff and Vale College, please return to our Careers Page.
Position not right for you?
Share it with someone you know.

Darlithydd Plymio

Reference: DEC20212751
Expiry date: 2022-01-07 12:00:00.000
Location: Caerdydd a'r Fro
Salary: £21,137.00 - £41,599.00 Per Annum
Benefits: Pecyn gwyliau hael, cyfraniadau pensiwn cyflogwr hael, cynllun iechyd preifat wedi'i gyllido'n llawn.
Attachments: AdPlumbingLecturer-_wel-.docx
JD-LecturerinPlumbingCYMRAEG2021.doc

Teitl y Swydd:      Darlithydd Plymio

Contract:              Llawn Amser, Parhaol

Cyflog:                  £21,137 - £41,599 y flwyddyn

Lleoliad:             Caerdydd a'r Fro

 

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn dymuno penodi Darlithydd Plymio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru darparu ac asesu cyrsiau ar lefelau gwahanol:

 

  • Plymio Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3 Llawn Amser
  • Plymio Prentisiaid Lefel 2 a Lefel 3 Rhan Amser

 

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â'r holl waith addysgegol megis paratoi gwersi, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, gwaith tiwtorial a marcio. Mae cyfrifoldebau eraill y swydd yn cynnwys:

  • Cynnal asesiadau i fyfyrwyr er mwyn lleoli myfyrwyr, monitro cynnydd ac adnabod anghenion cymorth dysgu
  • Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn diwallu anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chofnodi ar y systemau Coleg priodol
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm
  • Ymwneud â marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, creu deunyddiau hyrwyddo priodol a gweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol

 

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar gymhwyster galwedigaethol mewn Plymio at safon lefel 3 ac â'r profiad domestig perthnasol. Mae profiad masnachol/diwydiannol yn ddymunol. Mae’n rhaid iddo hefyd ddal cymhwyster addysgu perthnasol neu fod yn barod i weithio tuag at un. Mae cymhwyster asesydd perthnasol yn ddymunol.

 

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech gynnal y cyfweliad a phroses asesu yn Gymraeg.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 07/01/22 am 12pm

 

I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu hr@cavc.ac.uk.

 

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Dyma gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau.  Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

 

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas, cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr ar ôl penodi.

 

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

 

<u>Mae’r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>

 

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy’n rhan o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd.