Cardiff and Vale College

Careers | Cardiff and Vale College

We are excited you have visited our Careers page. We are seeking talented individuals that are excellent in their field of expertise and are posed with all potential and skills necessary to help us meet future business challenges.

Cardiff and Vale College
This position is no longer available
If you would like to apply to other positions at Cardiff and Vale College, please return to our Careers Page.
Position not right for you?
Share it with someone you know.

Darlithydd Rheweiddio, Aerdymheru a Phympiau Gwres

Reference: AUG20234052
Expiry date: 2024-04-26 11:00:00.000
Location: Caerdydd a'r Fro
Salary: Competitive
Benefits: Gwyliau Blynyddol hael, Cynllun Pensiwn ac Iechyd
Attachments: JobDescriptionRACLecturer_wel.doc
LecturerinRefrigerationAirConditioningandHeatPumps-Advert(English)_wel.docx

Swydd Wag Fewnol / Allanol

 

Teitl y Swydd:         Darlithydd Rheweiddio, Aerdymheru a Phympiau Gwres

Contract:                 Llawn Amser, Parhaol

Oriau:                      37

Cyflog:                    £24,051 - £47,333 y flwyddyn, yn seiliedig ar brofiad 

 

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd Rheweiddio, Aerdymheru a Phympiau Gwres yn adran Gwasanaethau Adeiladu Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar wahanol gampysau.

 

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

 

  • Ymgymryd â'r holl waith addysgeg, fel paratoi gwersi, gweithdai a pharatoi gweithdai ymarferol, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, addysgu mewn gweithdai, gwaith tiwtorial a marcio. 
  • Paratoi gweithdai, fel cadw’r holl offer, deunyddiau, a chyfarpar mewn cyflwr pwrpasol.
  • Cynnal asesiadau i fyfyrwyr er mwyn lleoli myfyrwyr, monitro cynnydd ac adnabod anghenion cymorth dysgu
  • Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn diwallu anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chofnodi ar y systemau Coleg priodol
  • Ymgymryd â gwaith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod.   Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, mynychu cyfarfodydd tîm, cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol ac arfarniadau staff, cynnal cofnodion yn gysylltiedig ag addysgu cywir yn cynnwys manylion asesu a phresenoldeb
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm
  • Ymwneud â marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, creu deunyddiau hyrwyddo priodol a gweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol
  • Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, ond nid yw'n hanfodol.

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 26/04/2024 yr 12:00pm. 

 

I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio 02920250311 neu anfonwch e-bost at recruitment@cavc.ac.uk.

 

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau.  Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

 

Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

 

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.