Teitl y Swydd: Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau
Contract: 37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig
Cyflog: £21,925- £23,797 pro-rata
Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar gyfer Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau yn ystod y tymor yn unig yn Adran Llwyddiant y Dysgwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu cymorth i’r myfyrwyr hynny a fydd ag anghenion sgiliau mewn llythrennedd, rhifedd, ESOL a sgiliau digidol, neu’r rheiny a fydd ‘ar risg’ o adael y Coleg.
Ymhlith y cyfrifoldebau bydd:
- Bod yn hyfforddwr dysgu – rhoi cymorth ac arweiniad priodol i’r myfyrwyr i’w helpu i ddeall eu harddulliau dysgu, gan ddefnyddio prosesau hyfforddi i alluogi’r dysgwyr i gael dysgu’n fwy effeithiol
- Gweithio gyda’r staff addysgu i wneud y gorau o allu’r myfyrwyr i ddysgu, i aros mewn addysg ac i ennill cymwysterau mewn meysydd academaidd neu alwedigaethol neu’r ddau
- Cysylltu â’r staff addysgu i ganfod y rhesymau dros dan-gyflawni’r myfyrwyr a gweithredu amrywiaeth o ddulliau megis cyfeirio, gwaith 1-1 a gwaith grwp, gosod targedau heriol ar Gynlluniau Dysgu Unigol, ac adeiladu cymhelliant y dysgwyr a’u lefelau hyder
- Darparu cymorth (yn y dosbarth, astudio cyfeiriedig preifat, apwyntiadau a chymorth galw heibio i’r Canolfannau Sgiliau) i’r myfyrwyr/ staff hynny a fydd ag anghenion sgiliau mewn llythrennedd a/neu rifedd, yn ogystal â chymorth gyda TG a Saesneg academaidd (ar bob lefel o cyn-fynediad hyd at AU a phroffesiynol)
- Cynnig cymorth i’r myfyrwyr o ran ysgrifennu datganiad personol UCAS a sgiliau astudio, gan gynnwys Ysgrifennu Academaidd, Sgiliau Cyflwyno, Rheoli Amser, Llên-ladrad a Chyfeirio
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn addysg i lefel 3 mewn pwnc perthnasol a bydd ganddo/ganddi TGAU Saesneg a Mathemateg, gradd C neu’n uwch. Bydd bod â chymhwyster Ymarferydd Sgiliau Hanfodol, Sgiliau Sylfaenol, Hyfforddwr Dysgu a PTLLS yn ddymunol iawn, neu bydd yn barod i weithio tuag at ennill y rhain yn ôl fel y bydd hynny’n briodol. Croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg er nad yw hyn yn elfen hanfodol o’r rôl.
Defnyddiwch ffurflen gais Coleg Caerdydd a’r Fro yn unig i wneud cais. Ni dderbynnir ceisiadau CV. Croesewir ceisiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.
<u>Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi’u cwblhau yw 06/12/21 am 12:00</u>
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu drwy hr@cavc.ac.uk.
Mae’r holl swyddi gwag yn berthnasol am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad dilys a chyfoes gan y DBS. Mae hwn yn gontract cytundebol ac mae’n rhaid ei sefydlu cyn i’ch cyflogaeth ddechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ynghylch Addasrwydd Cyn-droseddwyr am Gyflogaeth ar gael ar gais.
Yn ogystal, bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yn ddibynnol ar wiriadau geirda addas, cyn y gallwch ddechrau ar y gyflogaeth. Rhaid i Goleg Caerdydd a’r Fro gael dau eirda, gydag un ohonynt gan eich cyflogwr diweddaraf.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru (CGA Cymru) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
<u>Mae’r rhain yn gontractau cytundebol ac mae’n rhaid iddynt fod wedi’u sefydlu cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>
Rydym yn ymroddedig i recriwtio a dargadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol y cynllun hyderus o ran anabledd.
|