Teitl y Swydd: Swyddog Cyfathrebiadau Dysgwyr
Contract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol tan fis Gorffennaf 2022
Salary: £23,929 - £25,971 pro rata y flwyddyn
Lleoliad: Coleg Caerdydd a'r Fro
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Swyddog Cyfathrebiadau Dysgwyr wedi'i leoli ar ein Campws Canol y Ddinas ond gyda'r disgwyliad i deithio i gampysau eraill yn ôl yr angen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol yn bennaf am weithio ochr yn ochr â Deon Taith y Dysgwr a’r Rheolwr Cyfathrebiadau, ac ar y cyd â Gwasanaethau Dysgwyr a meysydd allweddol eraill ledled y coleg, i gynllunio a gweithredu calendr o gyfathrebiadau canolog ar gyfer yr holl ddysgwyr yn seiliedig ar eu taith ddysgu gyfan - gan gynnwys ymgyrchoedd/ cyngor/ canllawiau a negeseuon cyfathrebiadau craidd a chyflwyno’r rhain drwy ystod o sianeli cyfathrebu.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Ysgrifennu copi cywir, diddorol a hawdd ei ddeall sy’n cadw at dôn llais y Coleg ac sy’n gweithio ar gyfer yr holl ddysgwyr, ar gyfer ystod o sianeli cyfathrebiadau ar-lein ac all-lein.
- Gweithio gyda thimau a staff allweddol ledled y Coleg i ganfod a dadansoddi gwybodaeth a all fod yn gymhleth o bryd i’w gilydd, a throsi’r wybodaeth hon yn negeseuon neu gyfarwyddiadau dealladwy a pherthnasol ar gyfer dysgwyr, sy’n cyd-fynd â'r dull cyffredinol o gyfathrebu â dysgwyr.
- Gweithio gyda’r Rheolwr Cyfathrebiadau ar negeseuon craidd i fyfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach ar yr un pryd, er mwyn sicrhau cyfathrebiad prydlon a chyson i bawb.
- Datblygu a chynnal dealltwriaeth fanwl o’r holl sianeli cyfathrebu â myfyrwyr, gan ddod yn ‘arbenigwr’ ar gyfer hyn yn y Coleg. Bydd hyn yn cynnwys yr Ap MyCAVC, Porth Myfyrwyr, sgwrs fyw, E-byst Myfyrwyr, gwasanaeth negeseuon testun, negeseuon e-bost byr a datblygu technolegau newydd ac arloesol gan gynnwys y ‘botsgwrsio’ – deall galluoedd pob un a’u defnyddio’n briodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael addysg i lefel Addysg Uwch neu gyfwerth mewn maes perthnasol ac yn medru arddangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 06/12/21 am 12:00
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu hr@cavc.ac.uk.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd
<u>Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.</u>
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|