Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: HEC101123
Teitl y Swydd: Gweinyddwr Addysg Uwch (AU)
Contract: Llawn Amser, Cyfnod Penedol hyd at fis Gorffennaf 2025
Oriau: 37
Cyflog: £21,278 - £22,790 y flwyddyn
Mae swydd wag gyffrous ar gael fel Gweinyddwr Addysg Uwch (AU) yn yr Ehangu Cyfranogiad adran yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli ar draws campysau.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Cynorthwyo gydag ymrestru'r holl fyfyrwyr yn y coleg yn ogystal â chyda prifysgolion partner.
- Cefnogi’r gwaith o gynnal cofnodion myfyrwyr ar system EBS y coleg a chyda prifysgolion partner drwy ddiweddaru manylion personol, prosesu ffurflenni newid mewn amgylchiadau a chofnodi data arall
- Cefnogi’r Cofrestrydd AU i sicrhau bod gan yr holl staff addysgu perthnasol Statws Athro Cydnabyddedig neu gyfwerth.
- Cynorthwyo gyda chasglu CVs a chyda lleoliadau mewn perthynas â myfyrwyr TAR Prifysgol sy'n ymgymryd â lleoliad yn y coleg.
- Cynorthwyo’r Cofrestrydd AU a chydweithwyr yn yr adran Gyllid i sicrhau bod y coleg yn derbyn yr holl incwm AU sy’n ddyledus gan y prifysgolion partner a sefydliadau hyfforddi eraill a bod yr holl daliadau wedi'u cofnodi ar EBS.
- Gwasanaethu cyfarfodydd y bwrdd rhaglen ac Is-bwyllgorau AU eraill gan gynnwys casglu papurau a chadw cofnodion.
- Gwasanaethu Byrddau Asesu Cenedlaethol Uwch Pearson yn ôl yr angen gan gynnwys casglu papurau a chadw cofnodion.
- Gwasanaethu paneli dilysu AU gan gynnwys cadw cofnodion a derbyn a chadarnhau’r canlyniad.
- Cynorthwyo gyda chynnal gwybodaeth ynghylch y cwrs ar y wefan a deunyddiau marchnata eraill.
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir addysgol cadarn gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd da. Bydd ganddo hefyd brofiad o ddefnyddio Systemau Cofnodion Myfyrwyr mewn Amgylchedd Addysgiadol.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 03/04/2023 am hanner dydd.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920250311 neu <u>recruitment@cavc.ac.uk</u>.
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
|