Mae’r Coleg yn ceisio gwella ymhellach y cyfleusterau TG sydd ar gael i fyfyrwyr a staff. Wrth i ni ail-strwythuro’r adran, mae cyfle wedi codi i ddau Dechnegydd TG deinamig a phrofiadol i ymuno ag Adran Gwasanaethau Cyfrifiadurol y Coleg i'n helpu gyda'r rhaglen hon, a darparu cymorth o safon uchel i staff a dysgwyr sy'n defnyddio systemau a rhwydweithiau'r Coleg.
Dylai fod gan ymgeiswyr hanes o weithio fel Technegydd TG neu mewn rôl debyg, ynghyd â phrofiad mewn rôl o'r fath mewn amgylchedd masnachol a/neu ym myd addysg. Bydd gwybodaeth dda gan ymgeiswyr o osod offer caledwedd a meddalwedd a darparu cymorth, ynghyd â phrofiad o ddiagnosio a datrys problemau mewn modd effeithlon ac effeithiol. Mae profiad o ddarparu gwasanaeth cymorth ar gyfer offer Apple yn ddymunol iawn, a hefyd unrhyw brofiad o ddarparu gwasanaeth cymorth teleffoni.
Wedi cael addysg i lefel 3 neu uwch mewn TG neu ddisgyblaeth gysylltiedig, bydd ymgeiswyr yn gallu dysgu systemau newydd yn gyflym ac yn dangos etheg gwasanaeth cwsmeriaid gryf ac yn gyfathrebwr ardderchog. Rhaid i ymgeiswyr fabwysiadu ymagwedd hyblyg at batrymau gwaith a bod yn barod i deithio a gosod offer oddi ar y safle.
Ar gyfer un o’r rolau, bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn hanfodol.
Nid oes angen i ygeiswyr blaenorol ail-ymgeisio.
Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).
|