Mae Coleg Gwyr Abertawe ar hyn o bryd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio dros gyfnod mamolaeth ein Rheolwr y Gymraeg i sicrhau na chollir momentwm wrth weithredu ein strategaeth Datblygu Dwyieithog/Cymraeg a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu Cyfadrannau a Meysydd Dysgu i weithio tuag at eu hamcanion Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog, rheoli’r tîm cyfieithu a goruchwylio’r gwaith o gydlynu gweithgareddau a mentrau i godi proffil yr iaith a’r diwylliant. Y rôl hefyd fydd yr arweinydd ar gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Wedi’ch addysgu i lefel Gradd, yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar Gymhwyster Addysgu neu Hyfforddi cydnabyddedig a bydd gennych brofiad o ddatblygu/hyrwyddo gwasanaethau neu adnoddau Iaith Gymraeg/Dwyieithog ar draws corff sector cyhoeddus.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol a phrofiad o arwain tîm a byddwch yn gyfarwydd â gofynion Safonau’r Gymraeg. Mae sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i ddatblygu partneriaethau da a gweithio fel aelod o dîm hefyd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).
|